Choose an application
Mae'r llyfr hwn yn cyflwyno ymchwiliad manwl a systematig ar adrodd am dlodi yng Nghymru, gan drafod canfyddiadau prosiect ymchwil dwy flynedd o hyd a ariannwyd gan 'Exploring the Narrative Coalition' grwp o 10 sefydliad trydydd sector sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. yr ESRC a Phrifysgol Caerdydd. Gan archwilio sut y mae newyddion am dlodi yn cael sylw gan newyddion darlledu, print ac ar-lein yn Saesneg ac yn Gymraeg, mae'n rhoi dealltwriaeth manwl o arferion presennol newyddiaduraeth a chyfathrebu ar fater hollbwysig sy'n wynebu Cymru. Yn sgil degawd o bolisïau cyni, gyda mesurau swyddogol yn cadarnhau bod profiadau o dlodi ac amddifadedd ar gynnydd, mae'r llyfr yn cynnig ymyriad amserol, gan ymchwilio'n feirniadol i naratifau'r cyfryngau prif ffrwd ar dlodi a sut y maent yn cael eu siapio. Mae'r llyfr hwn yn seiliedig ar ymchwil gwreiddiol a gynhaliwyd rhwng 2016-7, yn ystod cyfnod helbulus sy'n cynnwys argyfwng Tata Steel ym Mhort Talbot. De Cymru, etholiadau Llywodraeth Cymru ac ymgyrch refferendwm am aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n ymdrin â sut y cafodd tlodi ei fframio ynghanol newyddion o bwys cenedlaethol ynghylch gwleidyddiaeth, busnes ac economi yn ogystal â straeon mwy lleol, personol neu o bwys i'r gymuned ynghylch bywoliaeth a materion cymdeithasol. Mae dadansoddiad meintiol o nodweddion allweddol yr ymdriniaethau ar draws mathau o gyfryngau gwahanol yn cynnig sylfaen dystiolaeth manwl ar gyfer deall sut y cafodd newyddion ynghylch tlodi ei gynrychioli. Mae hyn yn cynnwys edrych ar y themâu cyd-destunoli mawr, grwpiau cymdeithasol a lleoliadau daearyddol sy'n cael sylw yn aml, achosion a chanlyniadau tlodi, a chyrchu gwybodaeth. Mae'n arddangos sut mae'r cyfryngau yng Nghymru yn ymateb yn wahanol i'r adroddiadau mwy negyddol sy'n nodweddiadol o rai adrannau gwasg genedlaethol y DU, yn enwedig o ran disgyrsiau sy'n achosi stigma ynghylch diweithdra a lles. Serch hynny, ceir cwestiynau pwysig eu codi ynghylch sut mae naratifau newyddion yn cyfleu ystyr ac yn enwedig y datgysylltiad rhwng y sylw a roddir i dueddiadau neu ddigwyddiadau macro-economaidd a'u heffaith ar fywydau pobl gyffredin. Yn ogystal, mae'r llyfr yn archwilio pam fod y sylw a roddir i newyddion am dlodi yn cael ei lunio fel ag y mae, gan ddefnyddio canfyddiadau cyfweliadau manwl gyda newyddiadurwyr a golygyddion am eu harferion. Drwy olwg gwerthoedd a phrofiadau proffesiynol, mae'r llyfr yn ymchwilio'r heriau sy'n debygol o effeithio ar adrodd am dlodi. Ymhlith y materion allweddol mae defnyddio adnoddau ac arbenigedd arbenigol a ddyrennir i newyddiaduraeth materion cymdeithasol, yr anawsterau o ran adnabod a chyrraedd o bosibl grwpiau agored i niwed ledled Cymru a chynrychioli astudiaethau achos yn deg ac yn foesegol. Cynhaliwyd set o gyfweliadau gyda gweithwyr trydydd sector proffesiynol ynghylch eu hymgysylltiad gydag arferion y cyfryngau newyddion a chysylltiadau. Maent yn cynnig mwy o wybodaeth am sut y caiff newyddion am dlodi ei lunio. Yma, ystyrir y pwysau o ran adrodd am dlodi o bersbectif gwahanol, lle gall ceisio dylanwadu sylw tlodi yn y wasg ac ymateb i ofynion newyddion greu tensiynau proffesiynol rhwng newyddiadurwyr a'r trydydd sector a/neu perthnasau cydweithredol cynhyrchiol positif sy'n effeithio ar naratifau'r newyddion. Drwy gynnig llun manwl o sut a pham mae naratifau newyddion tlodi wedi'u siapio fel ag y maent, mae'r llyfr yn bwriadu creu sail dystiolaeth fydd yn llywio'r gwaith o adrodd am dlodi yn fwy cywir, cynrychioladol ac ystyrlon yng Nghymru.

Broadcast journalism --- Radiojournalistiek. --- Televisiejournalistiek.
Choose an application
Choose an application
Choose an application
Choose an application
"Broadcast News Toolkit focuses on the writing, shooting, and production of broadcast news across multimedia platforms in a non-technical and visually engaging way. Covering a range of different story forms in broadcast news (RDR, FS, VO, VO/SOT, PKG and Liveshots), this book illustrates basic audio/video shooting and editing techniques through straightforward examples, including online video tutorials that can be accessed via a QR code within the book. Specific issues relating to online content, social media, and audience engagement are discussed in detail, and the authors further explore why trust in news media is declining, the impact that fake news and deep fake videos have on media credibility, diversity and inclusion in newsrooms, and what can be done to increase the perceived credibility of the news. Students will also learn how to write leads and teases that will keep viewers engaged. This is an ideal text for undergraduate and graduate students of Broadcast and Multimedia Journalism who are looking for a clear and concise guide to the modern digital newsroom"--
Choose an application
Broadcasting --- Broadcast journalism --- Broadcasting policy
Choose an application
Choose an application